Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Cyfleon a Galwadau

Yn yr adran hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyflwyno gwaith celf i un o’n dwy sioe agored blynyddol – y brif sioe agored Brondanw a’r agored ifanc, sydd ar gyfer pobl dan 18 oed. Bydd pob cyfle arall i gyflwyno gwaith celf neu i weithio gyda ni hefyd yn cael ei arddangos yma wrth iddynt godi.

Arddangosfa Agored Plas Brondanw
Rydym yn cynnal arddangosfa agored yn y gwanwyn pob blwyddyn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un, boed artist profiadol neu rhywun sy’n rhoi troed yn y dŵr am y tro cyntaf. Fe’ch gwahoddwn chi i ymateb i’r thema ar gyfer y flwyddyn pan ydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer yr Agored. Wele isod y rhestr o themâu ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Rydym hefyd yn cynnal cystadleuaeth Artist sy’n dod i’r Amlwg, a bydd yr enillydd yn cael arddangosfa unigol yn ystod mis Medi y flwyddyn ar ôl yr wobr, (e.e. bydd enillydd mis Mawrth 2024 yn cynnal arddangosfa unigol yn mis Medi 2025). Rydym hefyd yn cynnig Gwobr y Bobl i’r artist sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau gan y cyhoedd. Mae’r ddau artist buddigol yn ennill £500 yr un, sy’n cael ei ariannu trwy’r gost o gyflwyno gwaith i’r arddangosfa. Bydd ffurflen gais Agored 2025 ar gael yn fuan, isod.

Arddangosfa Agored Ifanc Plas Brondanw
Mae’r arddangosfa Agored Ifanc yn gyfle unigryw i bobl dan 18 arddangos eu gwaith mewn oriel gelf broffesiynol, ac mae’n cael ei gynnal yn ystod y gaeaf pob blwyddyn.

Bydd yr Agored Ifanc nesa’n agor ar 18fed o Ionawr 2025, gweler y dyddiadau a’r drefn danfon a chasglu gwaith isod. Y thema yw ‘Gofod/Space’. Gofynnwn i chi fowntio gwaith sydd ar bapur ar gerdyn mowntio du, gyda 2” o’i amgylch os allech chi, ac i ysgifennu enw’r ac oed y plentyn, teitl y gwaith, ac ardal neu ysgol ar y cefn. Nid oes angen gwneud cais ffurfiol i gyflwyno gwaith, ond allwn ni ddim gaddo arddangos popeth yr ydym yn ei dderbyn. Nodwch y dyddiadau isod.

Dyddiadau pwysig ar gyfer Arddangosfa Agored Ifanc 2025

27 Tachwedd – 8 Rhagfyr 2024: Cyflwyno gwaith yn Plas Brondanw
18 Ionawr 2025: Lansiad yr arddangosfa
16 Chwefror 2025: Arddangosfa’n cau
19-23 Chwefror 2025: Casglu’r Gwaith

Os ydych chi’n athro neu athawes ac mae gennych ddiddordeb cyflwyno gwaith ar ran dosbarth neu unigolion yn eich ysgol, byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi. Cysylltwch a ni ar post@susanwilliamsellis.org neu ffoniwch 01766770590 am sgwrs.

Arddangosfeydd Unigol
Os ydych yn arlunydd sy’n gobeithio cynnal arddangosfa unigol yn Plas Brondanw, mae croeso i chi gysylltu a’r curadur celf cyfoes, Sian Elen am sgwrs. Ei chyfeiriad ebost yw sian@susanwilliamsellis.org, neu ffoniwch ar y brif linell ffôn.

Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grwp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:

2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr

Yn ymwneud ag arddangos gweithiau celf yn y Parlwr ac ar y Landin Dwyreiniol ym Mhlas Brondanw.

Pwrpas elusenol cyntaf Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis Foundation (YSWEF) yw:

Sefydlu a chynnal archif, amgueddfa ac oriel er budd y cyhoedd sy’n ymroddedig i arddangos, dehongli a deall celf, hanes a gweithiau Susan Williams-Ellis, Clough Williams-Ellis a’r teulu fel y bo’n briodol ym marn yr Ymddiriedolwyr ac i sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd eu hastudio a'u hysbrydoli.1

Mae’r Ymddiriedolwyr a’r tîm curadurol wedi cytuno y bydd y Parlwr (yr ystafell fwyaf ar y llawr cyntaf, sy’n wynebu’r cwrt a’r fynedfa), ac ochr Dwyreiniol yr ardal ar ben y grisiau, a nodir isod, wedi’u neilltuo’n gyfan gwbl i ddeunydd sy’n ymwneud â Susan Williams-Ellis. Gall hyn gynnwys:

1. Gwaith celf a dylunio ac eitemau eraill sy'n eiddo neu wedi'u creu gan Susan Williams-Ellis.

2. Gwaith gan artistiaid cyfoes sy’n ymwneud â bywyd neu waith Susan Williams-Ellis.

3. Gwaith arall a ddewiswyd gan guraduron Plas Brondanw oherwydd ei fod yn berthnasol i Susan Williams-Ellis.

Darllen mwy