Mewn cyfres o bump sgwrs, bydd Peter Lord yn trafod arlunio yng Nghymru drwy’r 19eg ganrif a hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Sail y sgyrsiau fydd ei gyfrol newydd, i’w chyhoeddi gan Parthian Books yn ystod yr haf, 2020, o dan y teitl Looking Out: Welsh painting, social class and international context. Ymhlith y pynciau amrywiol dan sylw fydd portreadwaith arlunwyr crwydrol Cymru, darluniau o waith Augustus John a’i gyfoeswyr a weithiai o dan nawdd yr Arglwydd Howard de Walden, a datblygiad Realaeth mewn celfyddyd Gymreig. Bydd Peter yn gosod y gwaith yng nghyd-destun hanes cymdeithasol Cymru, a thraddodiad hanes celf Ewrop a’r Unol Daleithiau.
Cyfres Sgyrsiau: ‘Looking Out: Welsh Painting, Social Class and International Context’ (Darlithoedd Saesneg)
1. Dydd Sul 22 Mawrth. ‘The Itinerant Life: Painters, Preachers, Poets’2. Dydd Sul 19 Ebrill. ‘Great Expectations: The Eyes of the World on Edgar Herbert Thomas’3. Dydd Sul 24 Mai. ‘Medieval Fantasies and Modern Artists: Lord Howard De Walden’4. Dydd Sul 21 Mehefin. ‘M.E. Eldridge and Henry Williamson: The Star-Born and the Dance of Life’5. Dydd Sul 19 Gorffennaf. ‘Poverty, Piety and Politics: Conflicting Realities in a Century of Welsh Painting’
Delwedd: M.E. Eldridge – ‘Boy’ darlun ar gyfer Henry Williamson, The Star-Born, 1950
Archebwch sedd ar gyfer sgwrs Peter Lord neu am fwy o wybodaeth:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590