Yn 1953, gofynnodd Clough Williams-Ellis i’w ferch, Susan, a’i gŵr Euan fynd ati i redeg y siop ym Mhortmeirion. Gan ddefnyddio logo cydnabyddedig y pentref, y fôr-forwyn, fel ei hysbrydoliaeth, dyluniodd Susan ddelweddau ar gyfer cofroddion o grochenwaith. Roedd y deunydd seramig yn cael eu cyflenwi a’u haddurno gan Grays yn Stoke on Trent, gan ddefnyddio dyluniadau Susan.
Bu Susan yn arbrofi gyda’r ddelwedd o fôr-forwyn. Ni ddefnyddiwyd ei darluniadau i gyd, ond mae rhai brasluniau diddorol, fel yr un yma, yn goroesi yn yr archif. – Rachel Hunt
[ffotograff] © John Hammond