Malachite oedd un o’r cyfresi seramig cyntaf i gael eu cynhyrchu yn enw Portmeirion – ‘Portmeirion Ware’ – yn fuan ar ôl i Susan a’i gŵr, Euan Cooper-Willis, gaffael Grays Pottery yn 1960. Rhoddodd hyn y cyfle i Susan ymarfer rhai technegau addurnol newydd a chreadigol, wedi eu gosod ar grochenwaith gwyn.
Efallai mai serameg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ei hysbrydoliaeth, fel y mwg Prattware yn y llun yma. Mae yma lun hefyd o flwch wedi ei wneud o malachit gwirioneddol, mwyn gwyrdd llachar sy’n cynnwys carbonad copr wedi ei hydradu.
Estynnodd Susan y dyluniad hwn i gynnwys tecstiliau, a defnyddiwyd rhai ohonynt i ddodrefnu Gwesty Portmeirion cyn y tân yn 1981. – Rachel Hunt
[ffotograff] © John Hammond