Arddangosfa Agored Oriel Brondanw 2020

Yn dilyn llwyddiant mawr Arddangosfa Agored 2019 dyma gyfle arall i artistiaid mewn unrhyw gyfrwng ddangos eu gwaith yn y gofod hyfryd sydd ar gael yn yr oriel hon.

Mae’r amserlen yn dynn ond mae’n gyfle heb ei ail. Dyma ddyddiadau allweddol i chi eu nodi:

Dyddiad olaf derbyn ceisiadau: dydd Sul, 26 Ionawr 2020

Hysbysu artistiaid a fu eu cais yn llwyddiannus ai peidio: 3 Chwefror 2020

Diwrnod olaf derbyn darnau celf yn Oriel Brondanw: 1 Mawrth 2020

Lansio Arddangosfa Agored Oriel Brondanw 2020: dydd Sul, 15 Mawrth 2020

Hyd yr Arddangosfa: 15 Mawrth tan 19 Ebrill 2020

Os cewch anhawster cysylltwch â ni ar post@susanwilliamsellis.org

Cliciwch ar y ddolen isod am Ffurflen Gais:
Ffurflen Gais_Agored2020_OBdanw