Hanes

Mae Oriel Brondanw ym Mhlas Brondanw, plasty bychan o’r unfed a’r ail ganrif ar bymtheg yng ngogledd Meirionnydd. Dyma brif dŷ Stad Brondanw a etifeddwyd gan Clough Williams-Ellis, mewn cyflwr gwael braidd, gan ei dad, John Clough Williams-Ellis yn 1908.

Mae Plas Brondanw yn adnabyddus, nid yn unig fel cartref i bensaer disglair Portmeirion ond hefyd am ei fod wedi creu’r gerddi hudolus rhestredig Gradd I yma. Delir y tŷ a’r gerddi yn awr dan ymddiriedolaeth.

Rhedir Oriel Brondanw, y rhan artistig o fewn Plas Brondanw, gan sefydliad ar wahân sy’n hyrwyddo celf fel dull o ddathlu bywyd artistig Susan Williams-Ellis, symbylydd Crochenwaith Portmeirion. Roedd yn ferch i Clough Williams-Ellis a’r awdures Amabel Williams-Ellis, Strachey yn enedigol. Plas Brondanw oedd cartref teuluol Susan.

Gyda’i ystafelloedd bychain, agos atoch, y golau naturiol a’r dirwedd tu allan, mae’r Plas yn lle rhyfeddol, hynod i oriel. Gall hyn ddeillio o’r ail adeiladu a fu ar y darn o’r ail ganrif ar bymtheg ar ôl y tân trychinebus yn 1951, ond hefyd o’r ystafelloedd ategol a ychwanegwyd gan Clough at yr hen dŷ yn yr 1930au fel ffordd gelfydd o ddelio ag ymsuddiant y tir.

Ers ei adeiladu tua 1550 a’r ychwanegiadau ato yn 1660 gan William Williams, ni fu Plas Brondanw yn eiddo i’r un teulu arall, er i gytundeb priodas gael ei lunio yn 1807 i uno’r teulu Ellis o’r Glasfryn, Llangybi â theulu Williams Brondanw, i greu’r cyfenw Williams-Ellis. Taid Clough, a aned yn 1808 ac a faged ym Mhlas Brondanw, oedd y cyntaf i gael y cyfenw Williams-Ellis.

Erbyn hyn mae’n anodd dychmygu bod y Plas, am 250 o flynyddoedd, yn sefyll ar lan aber anferth y Glaslyn, gan mai yn 1812 y gwnaeth y Traeth Mawr sychu ac ymbellhau pan orffennodd William Alexander Madocks y Cob wrth y dref a ddaeth i gael ei galw yn Borthmadog.

Mae’n ddifyr nodi mai yn hen dŷ Madocks yn Nhan yr Allt, ar ochr arall y Traeth i Blas Brondanw y ganed mam Clough, Ellen Mabel Greaves, yn 1851, yn ferch i John Whitehead Greaves perchennog chwareli cynhyrchiol iawn Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Priododd Ellen Mabel â John Clough Williams-Ellis, a aned yn 1833, mab John Williams-Ellis a Harriet Ellen Clough, a hanai o’r hen deulu hwnnw o Sir Ddinbych; a dyna pryd y daeth yr enw Clough i’r teulu.

Er bod John Clough yn fathemategwr gwych ac iddo gael gyrfa academaidd yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt cyn troi at yr eglwys ac ymddeol yn 1888 i gartref y teulu Ellis a’u stad yn Glasfryn, Ellen Mabel wnaeth feithrin diddordeb Clough mewn lluniadu, ffurfiau a cheinder. Arhosodd yr elfennau hyn, ynghyd â’i reddf gadarn gyda Clough am weddill ei oes a gellir eu gweld yn amlwg ac yn gynnil yn y tŷ yr oedd yn angerddol ac obsesiynol amdano.

Mae celf a harddwch a’r rhai sy’n eu creu wedi cael lle amlwg ym Mhlas Brondanw bob amser ac mae’n ymddangos yn addas iawn bod y tŷ erbyn hyn, trwy Oriel Brondanw, yn gallu hyrwyddo ysbryd o’r fath a gwahodd eraill i’w fwynhau.

Image

Plas Brondanw ar ôl y tân yn Rhagfyr 1951. Daw’r toriad o’r Liverpool Daily Post ac mae’n rhan o archif Glasfryn.