8 Mehefin 2024: 1-3:30pm
Cost: £20
Ymunwch â’r artist Wanda Garner am brynhawn deinamig o ddarlunio cyrff yn symud!
Bydd perfformwyr o syrcas gymunedol Circo Arts yn modelu ar gyfer y gweithdy hwn, gan berfformio dilyniant o symudiadau wedi’u coreograffu’n arbennig fel y gellir dal ac ailadrodd yr ystum sawl gwaith, wrth i chi geisio eu darlunio. Er ei fod yn dasg heriol, mae’r math hwn o ymarfer yn llawer o hwyl a gall arwain at luniau mynegiannol hyfryd (neu os ddim, mae’n arfer da iawn beth bynnag!) Mae’r gweithdy hwn yn debygol o apelio at bobl sydd â pheth profiad o luniadu o fywyd, ond mae croeso mawr i unrhyw un sydd awydd rhoi cynnig arni. Bydd Wanda, sy'n athrawes brofiadol, yn rhoi awgrymiadau ac yn eich annog i roi cynnig ar ddulliau newydd. Dewch â'ch llyfrau braslunio eich hun a phensiliau/graffit/ siarcol a byddwch yn barod i gael hwyl!