Image

Oriel Brondanw

Oriel Brondanw

Lleolir Oriel Brondanw ym Mhlas Brondanw, plasty bychan o’r unfed a’r ail ganrif ar bymtheg yng ngogledd Meirionnydd. Dyma brif dŷ Stad Brondanw a etifeddwyd yn 1908 gan Clough Williams-Ellis oddi wrth ei dad John Clough Williams-Ellis. Ar y pryd roedd cyflwr y tŷ yn ddigon gwael.

Mae Plas Brondanw yn adnabyddus, nid yn unig fel cartref i bensaer disglair Portmeirion ond hefyd am y gerddi trawiadol a grewyd ganddo yno. Erbyn heddiw fe’u cofrestrwyd fel gerddi Gradd I o dan ofal ymddiriedolaeth.

Rhedir Oriel Brondanw, y gofod artistig o fewn Plas Brondanw, gan ymddiriedolaeth ar wahân sy’n hyrwyddo celf fel dull o ddathlu bywyd artistig Susan Williams-Ellis, symbylydd Portmeirion Pottery. Merch i Clough Williams-Ellis a’r awdures Amabel Williams-Ellis, Strachey yn enedigol, oedd Susan a Phlas Brondanw oedd ei chartref teuluol.

Gyda’i ystafelloedd bychain, agos atoch, y golau naturiol a’r dirwedd tu allan, mae’r Plas yn lle rhyfeddol ac hynod i oriel. Gellid tadogi cyfran o hyn i’r ailadeiladu a fu ar yr adain o’r ail ganrif ar bymtheg wedi tân trychinebus 1951, ond hefyd i ystafelloedd y bwtres a ychwanegwyd at yr hen dŷ gan Clough yn y 1930au fel ffordd gain o ddelio a’r bochio yn y muriau ac ymsuddiant y tir.