Menna Angharad – ‘Edrych Ar Bethau’

Dydd Sul 26 Ebrill i dydd Sul 7 Mehefin

Be ydy pwrpas paentio a darluniau? I arddurno? I fawrygu? I ddehongli? I ddysgu? I gyfathrebu? I Menna, mae paentio yn reswm i edrych ar bethau fel ffordd o archwilio; archwilio be, nid yw Menna yn siŵr – rhywbeth annelwig sy’n gwibio allan o afael ac yn diflannu’n ôl i’r gwyll ar y cipolwg cyntaf.

 

am fwy o wybodaeth:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590