Totem, a lansiwyd yn 1963, oedd un o’r gyfres gyntaf o grochenwaith Susan i gynnwys y pot coffi tal main, a ddaeth yn eicon ymhlith dyluniadau’r 1960au.
Mae’r jygiau main yn adleisio siâp y potiau coffi, ond yn wreiddiol roeddent yn dilyn dyluniad gwahanol. Y syniad oedd rhoi’r gwydredd lliw ar wyneb allanol y jygiau yn unig, a chadw’r tu mewn yn wyn fel y gwelir yma. Ond, roedd hyn yn cynyddu’r costau cynhyrchu, felly cyn bo hir dewiswyd un lliw gwydredd trwyddynt i gyd gan anghofio’r tu mewn gwyn. – Rachel Hunt
[ffotograff] © John Hammond