
C. A yw Oriel Brondanw neu Blas Brondanw yn amgueddfa?
A. Na. Defnyddir y tŷ, Plas Brondanw, fel oriel.
C. A yw Oriel Brondanw neu Blas Brondanw yn ‘rhyw fath o dŷ gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol’?
A. Na. Mae Plas Brondanw yn eiddo i ymddiriedolaeth breifat ac fe’i sefydlwyd fel oriel a chanolfan ddiwylliannol dan yr enw Oriel Brondanw. Nid yw’r ystafelloedd wedi eu dodrefnu i adlewyrchu cyfnod penodol na phersonoliaeth arbennig.
C. Ai’r un lle yw Oriel Brondanw a Phlas Brondanw?
A. Oriel Brondanw yw’r gofod artistig o fewn Plas Brondanw, y tŷ o’r ail ganrif ar bymtheg. Nid yw’n cyfeirio at Erddi Plas Brondanw na’r Caffi er eu bod ar yr un safle. Os hoffech gael gwybod rhagor am Erddi Plas Brondanw neu’r Caffi cliciwch ar y ddolen yma: http://www.plasbrondanw.com
C. Beth mae ‘Oriel’ yn ei olygu?
A. ‘Oriel’ yw’r gair Cymraeg am ‘gallery’ yn Saesneg. Benthyciad o Saesneg Canol yw’r gair pan oedd oriel yn golygu portico, cyntedd, oriel neu falconi. Daeth i’r Saesneg o’r Hen Ffrangeg.
C. Ble mae Oriel Brondanw?
A. Mae ychydig y tu allan i Garreg Llanfrothen, Penrhyndeudraeth ar yr ochr ogleddol. Y cod post yw LL48 6SW. Trowch oddi ar yr A4085 wrth y Lodj a dilyn y ffordd gul am Groesor. Fe welwch yr Oriel mewn ychydig gannoedd o fetrau i fyny’r ffordd ar y chwith.
C. Ble dylwn i barcio?
A. Gydag ewyllys da Gerddi Plas Brondanw mae maes parcio bach ar y chwith, 100 metr ar ôl y Lodj ac ychydig gannoedd o fetrau o’r tŷ ei hun. Cafwyd caniatâd i adeiladu maes parcio newydd yn nes at Blas Brondanw. Mae mannau parcio Bathodyn Glas cyfyngedig gyferbyn â’r Plas a’r Caffi.
C. A oes gan Oriel Brondanw fynediad i gadeiriau olwyn neu sgwteri?
A. Yn anffodus, cyfyngedig iawn yw’r mynediad i’r rhain. Mae llawer o risiau yn y tŷ yma o’r unfed a’r ail ganrif ar bymtheg ac mae’n eithaf cul mewn rhai mannau.
C. A oes gan Oriel Brondanw gaffi?
A. Na, ond gellir defnyddio’r Caffi yn y fynedfa i Erddi Plas Brondanw yn ystod y ‘tymor’ heb dalu ffi am fynediad i’r Gerddi. Nid oes gan Oriel Brondanw unrhyw reolaeth dros oriau agor y Caffi. Am wybodaeth am y Caffi ewch i: http://www.plasbrondanw.com/cafe
C. A yw Oriel Brondanw yn weithredol fel oriel a chanolfan ddiwylliannol?
A. 2018 fydd ein hail dymor. Ond wrth ysgrifennu hwn, mae’n dal i ddatblygu. Edrychwch ar ein tudalen Beth sydd ymlaen?
C. Beth yw oriau agor Oriel Brondanw?
A. Gweler ein tudalen Amseroedd Agor.
C. Beth sydd ymlaen yn Oriel Brondanw?
A. Gweler ein tudalen Beth sydd ymlaen?
C. A oes tâl mynediad i Oriel Brondanw?
A. Ar hyn o bryd, na. Cofiwch y gall mynediad gael ei gyfyngu am wahanol resymau.
C. A all rhywun ymweld â Gerddi Plas Brondanw trwy Oriel Brondanw?
A. Mae tâl mynediad i'r Gerddi .
C. Sut y mae Oriel Brondanw yn gweld ei hun fel oriel a chanolfan ddiwylliannol?
A. Mae Ymddiriedolwyr yr Oriel wedi nodi eu bod am hyrwyddo ‘celfyddyd gain gyfoes gyda phwyslais cysyniadol cryf a diddordeb mewn ennyn ymlyniad gan y rhai ddaw yno i weld’. Gwelsom bod yr Oriel a’i hawyrgylch unigryw yn denu artistiaid newydd a rhai cydnabyddedig a’i fod yn lle eithriadol i arddangos gwaith. Gellir gweld enghreifftiau o’r arddangosfeydd a fu ar ein tudalen Oriel.
C. A oes arddangosfa barhaol?
A. Mae yma arddangosfa barhaol gynrychioliadol o waith seramig a heb fod yn seramig gan Susan Williams-Ellis a’i chyfaill oes, yr arlunydd Sarah Nechamkin. Bydd maint yr arddangosfa honno yn amrywio yn ôl yr arddangosfeydd eraill a geir yn yr Oriel ar yr un pryd.
C. Pwy oedd Susan Williams-Ellis?
A. Mae’n debyg bod Susan Williams-Ellis (1918-2007) yn fwyaf enwog fel sylfaenydd Portmeirion Pottery, sy’n adnabyddus yn fyd-eang. Nod Oriel Brondanw yw dathlu ei bywyd artistig amrywiol, ond hefyd trwy hynny anelu at roi cyfle i gelf yn ei wahanol ffurfiau ffynnu yn ei hen gartref teuluol. Susan Williams-Ellis oedd plentyn hynaf Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion, a’r awdures Amabel Williams-Ellis, Strachey yn enedigol.
C. A oes gan Oriel Brondanw gasgliad cynhwysfawr o Portmeirion Pottery Susan Williams-Ellis?
A. Mae gennym enghraifft gynrychioliadol o ddeunydd Crochenwaith Portmeirion ond mae ymhell o fod yn gynhwysfawr. Ond yr ydym yn cael eitemau ychwanegol yn gyson.
C. Beth wnaeth Susan Williams-Ellis ei greu ar wahân i’r crochenwaith?
A. Mae’r archif yr ydym yn ei llunio yn gyfuniad cyfareddol o fywyd arlunydd. Roedd Susan yn gweithio mewn amrywiol gyfryngau 2D fel arlunydd wedi ei chomisiynu a heb ei chomisiynu. Dyluniodd ffabrigau, dillad a dodrefn. Mae gennym frasluniau a lluniadau a nodiadau ac eitemau a wnaeth ei hysbrydoli. Mae ei stori yn ei chyd-destun teuluol a chymdeithasol yn creu chwilfrydedd. Yn y pen draw rydym yn gobeithio y bydd yr archif yn adnodd ar-lein.
C. Beth am Oriel Brondanw fel canolfan ddiwylliannol?
A. Rydym yn bwriadu cynnal a hyrwyddo darlithoedd a digwyddiadau llenyddol, trafodaethau ac efallai gynadleddau a pherfformiadau cerddorol ar raddfa fechan. Os oes gennych ddiddordeb yn y lle unigryw hwn fel lleoliad, cysylltwch â ni.
C. Pam ‘ar raddfa fechan’?
A. Rhyfeddol o fychan yw’r tŷ, felly bydd digwyddiadau ynddo yn brofiad agos atoch, hyd yn oed tu allan ar gowt yr Oriel.
C. A oes teithiau o gwmpas tŷ Plas Brondanw?
A. Os bydd yn gyfleus, gall y Curadur, heb apwyntiad, arwain unigolion a chyplau o gwmpas y tŷ i drafod ei hanes a’r gwaith celf sy’n cael ei arddangos. Ond, ni ellir gwarantu hyn. Rhaid i grwpiau mwy wneud trefniant ymlaen llaw bob amser. Ni ellir ystyried grŵp o fwy na deuddeng oedolyn. Ar hyn o bryd nid oes tâl am y daith hon. Ni chaiff plant dan 13 oed fynediad heb fod yng nghwmni oedolyn. Ni chaniateir cŵn yn y tŷ.
C. A yw taith o gwmpas Oriel Brondanw (Plas Brondanw) yn cynnwys taith o gwmpas Gerddi Plas Brondanw?
A. Na. Ond gellir trefnu taith o gwmpas y Gerddi trwy glicio ar: http://www.plasbrondanw.com/tours/
C. A allaf wirfoddoli i helpu Oriel Brondanw?
A. Â chroeso. Gweler y dudalen Gwirfoddolwyr Oriel Brondanw.
C. Sut gallaf ymuno â Chyfeillion Oriel Brondanw?
A. Gweler y dudalen Cyfeillion Oriel Brondanw.
C. A oes gennych raglen Artist Preswyl?
A. Oes, y mae un gennym ac rydym yn croesawu ceisiadau. Gweler yr adran berthnasol ar ein tudalen Artist Preswyl.
C. Pwy sy’n rhedeg Oriel Brondanw?
A. Rhedir Oriel Brondanw gan Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis Foundation [YSWEF], Rhif Elusen Gofrestredig 1158239. Pedwar plentyn Susan Williams-Ellis ac Ysgrifennydd swyddogol yr Ymddiriedolaeth yw’r Ymddiriedolwyr.
C. A oes cysylltiad rhwng Oriel Brondanw â Phortmeirion neu Erddi Plas Brondanw?
A. Y mae cysylltiad hanesyddol a theuluol ond nid oes cysylltiad ffurfiol o ran rheolaeth. Mae Oriel Brondanw – Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis Foundation [YSWEF] – yn sefydliad gwahanol ac annibynnol i’r un sy’n dal Portmeirion, Gerddi Plas Brondanw a Stad Brondanw dan ymddiriedolaeth. Gelwir yr ymddiriedolaeth honno yn Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis Foundation, Rhif Elusen Gofrestredig 516895. Ewch i http://www.brondanw.org i gael rhagor o wybodaeth.
C. Ble gallaf fi gael rhagor o wybodaeth am Oriel Brondanw?
ar Twitter @orielbrondanw
facebook.com/orielbrondanw
instagram.com/orielbrondanw
e-bost: post@susanwilliamsellis.org
ffonio Oriel Brondanw ar 01766 770590