Chwilio yn ôl mis
Popeth
Mawrth
Hydref
Tachwedd
Chwilio yn ôl digwyddiad
Popeth
Arddangosfeydd
-
Menna Angharad - 'Bywyd Llonydd'1 Mai - 12 MehefinAstudiodd Menna Angharad llysieueg cyn hyfforddi yn Ysgol Gelf Byam Shaw yn LLundain ac wedyn ennill MA mewn Celf Gain o Brifysgol Caerdydd. Mae hi'n paentio tirluniau a gweithiau bywyd llonnydd mewn olew ar gynfasau llin, yn gweithio'n uniongyrchol o fywyd i greu delweddau a harddwch unigryw sy'n dathlu natur gwerthfawr a difyr pethau pob dydd.
-
Sarah Nechamkin (1917-2017) 'Llwybrau Breuddwydion'24 Gorffennaf - 17 MediCyfarfu Sarah Nechamkin â Susan Williams-Ellis tua 1935 pan oedd y ddwy yn astudio yn y Chelsea Polytechnic, a daethant yn gyfeillion oes. Derbyniodd Oriel Brondanw gymynrodd o nifer sylweddol o baentiadau Sarah, a bydd yr arddangosfa gryno hon yn y Llyfrgell yn codi cwr y llen ar y gwaith hwnnw ac ar fywyd yr artist Iddewig-Rwsaidd o Ibiza.
-
Sian Hughes - 'Darnau Mewn Amser'25 Medi - 6 TachweddMae Darnau Mewn Amser: Llif yn deillio o grant Ymchwil a Datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2019 a ddefnyddiais i archwilio cefnwlad y Traeth Mawr, Porthmadog, pan oedd yn aber llanw cyn adeiladu’r Cob, a rôl Afon Dwyryd yn dod â llechi i'r môr. Yn y gosodiad hwn mynegir themâu llif, ynysoedd a mannau croesi, trwy borslen a latecs. Daw marciau o'r dirwedd, sydd wedi'u gwreiddio yn eu priodweddau tryloyw cain, yn fyw trwy oleuadau i wahodd ail-welediad o bethau cyfarwydd.