Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Amdanom ni

Mae Plas Brondanw (y a’r oriel, ond nid y caffi a’r gerddi) yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis.Sefydlwyd yr elusen ar ôl marwolaeth Susan i warchod ei harchif a sicrhau bod ei gwaith hi a’r teulu ehangach ar gael i’r cyhoedd.Prif nod arall yr elusen yw i hyrwyddo’r celfyddydau a chynnig cyfleon i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.Ymddiriedolwyr yr elusen yw Anwyl Cooper-Willis, Sian Cwper, Menna Angharad a Robin Llywelyn, sef plant Susan.

I wybod mwy am bwrpas yr elusen ac i weld ei dogfen llywodraethu ewch i: register-of-charities.charitycommission.gov.uk/cy/charity-search/-/charity-details/5044951/governing-document

Mae Plas Brondanw yn cael ei redeg gan elusen, Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis. Mae mynediad i’r tŷ am ddim, ac mae llawer o’r digwyddiadau yr ydym ni’n eu trefnu hefyd am ddim. Rydym yn awyddus i gynnig cyfleon i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chreadigol, waeth beth yw eu sefyllfa ariannol. Os hoffech chi gefnogi ein gweithgareddau gyda rhodd ariannol, byddwn yn ddiolchgar tu hwnt. Cliciwch ar y ddolen isod a dewis faint yr hoffech chi gyfrannu.

Cyfrannwch yma


Mae gerddi enwog Clough Williams-Ellis sydd hefyd yn rhan hanfodol o safle Plas Brondanw yn cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis, sydd hefyd yn gyfrifol am y caffi. Am rhagor o wybodaeth am yr elusen honno, edrychwch ar eu gwefan:cloughwilliamsellis.org/Hafan

Mae pentref Portmeirion yn cael ei redeg gan gorff gwahanol eto, Portmeirion Cyf, mae eu gwefan nhw i’w gweld yma:portmeirion.cymru

Mae Crochendy Portmeirion yn gwmni rhyngwladol sydd bellach yn berchen ar nifer o frandiau eraill ym maes crochenwaith a nwyddau i’r cartref.Gweler eu siop arlein yma: portmeirion.co.uk

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw

Plas Brondanw