Helfa Gelf yn Oriel Brondanw 2018

Helfa Gelf yn Oriel Brondanw 2018

Dydd Sul, 9 Medi – Dydd Sul, 7 Hydref 2018

Er gwaetha’r tywydd erchyll, roedd y tro cyntaf i’r Helfa Gelf gydweithio gydag Oriel Brondanw yn 2017 yn llwyddiant eithriadol. Bu tri ar hugain o arlunwyr yn arddangos 52 darn o gelf mewn cyfryngau amrywiol yn y lle hynod hwn.

Eleni mae yma 38 o artistiaid yn arddangos 89 o ddarnau cyffrous. Erbyn hyn mae gwaith artistiaid Helfa Gelf i’w weld yn Llyfrgell y Plas yn ogystal â gweddill yr Oriel. Llongyfarchiadau i bawb.

Am fwy o wybodaeth ebostiwch post@susanwilliamsellis.org neu ffoniwch 01766 770590