‘Henry Clarence Whaite – Eryri yn Oes Victoria’ – Peter Lord

Dydd Sul 14 Ebrill i Dydd Sul 26 Mehefin

Mae Oriel Brondanw wrth ei bodd yn cyflwyno cyfres arall o Sioeau Bach y Llyfrgell o dan guradaeth Peter Lord. Bydd Peter yn agor pob sioe â sgwrs; doedd dim sêt ar ôl i’r sgyrsiau hyn yn 2018. Themâu’r sioeau-bach eleni yw:

  1. Henry Clarence Whaite: Eryri yn Oes Victoria. (14/4 – 26/5/19)
  2. Merched Trwy Lygaid Dynion – portreadau 1736-1955. (2/6 – 14/7/19)
  3. John Cambrian Rowland ac Evan Williams: Arlunwyr Ceredigion yng Nghaernarfon. (21/7 – 1/9/19)

 

Cadwch sedd ar gyfer yr agoriad:
post@susanwilliamsellis.org
01766 770 590