GALW AM ARTISTIAID Arddangosfa Agored – Oriel Brondanw 2018

Arddangosfa Agored – Oriel Brondanw 2018
GALW AM ARTISTIAID 

Dyddiad cau cyflwyniadau ar e-bost yw dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2018.

Gwahoddir artistiaid Helfa Gelf i gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa yn Oriel Brondanw yn Mis Medi 2018

Ceir cyflwyno hyd at dri darn. Anfonwch e-bost o ddelweddau (heb fod yn fwy nag 1mb) o’r gwaith rydych yn ei gyflwyno, ynghyd â theitl, maint a chyfrwng.

At Rachel Rosen, Cydlynydd Helfa Gelf, y dylid gyrru’r e-byst: rachel@helfagelf.co.uk, efo ‘Cyflwyniad Oriel Brondanw’ ar lein pwnc.

www.helfagelf.co.uk/cy/events/open-exhibition-oriel-plas-brondanw